Thanks to visit codestin.com
Credit goes to www.bbc.co.uk

Cofio Sgrech - y cylchgrawn bop wnaeth danio'r sin roc Gymraeg yn '78

Glyn Tomos yn yr 1970au a heddiwFfynhonnell y llun, Sgrech
Disgrifiad o’r llun,

Glyn Tomos wrth ei deipiadur yn gweithio ar rifyn o Sgrech, a heddiw

  • Cyhoeddwyd

"Does 'na ddim wythnos yn mynd heibio pan dydi rhywun ddim yn siarad efo fi am Sgrech."

Tra bod nifer o fanzines a chylchgronau pop yn mynd a dod, mae'r ffaith bod 'na bobl yn dal i siarad am Sgrech bron i hanner canrif ers ei sefydlu yn arwydd o'i lwyddiant.

Am saith blynedd bu'n adlewyrchu cyffro'r sin pop a roc Cymraeg, ond hefyd yn chwarae rhan yn creu'r bwrlwm.

Er ei fod wedi dod i ben yn 1985, dywedodd ei sylfaenydd bod pobl yn dal i drafod y cylchgrawn a'r gigs roedden nhw'n eu trefnu, ac y byddai'r sin presennol yn elwa o gyffro tebyg.

Ac fe fydd sgwrs yn cael ei chynnal yn Storiel, Bangor, ar 1 Tachwedd i gofio'r cyfnod, gyda Glyn Tomos yn cael ei holi gan un oedd yn cyfrannu i'r cylchgrawn ac yn cyflwyno'r noson wobrwyo - y cyfreithiwr a'r sylwebydd pêl-droed Nic Parry.

Nic Parry a Glyn Tomos yn cyflwyno noson wobrwyo Sgrech - a rhifyn cyntaf y cylchgrawnFfynhonnell y llun, Sgrech
Disgrifiad o’r llun,

Nic Parry (chwith) a Glyn Tomos (dde) yn cyflwyno noson wobrwyo Sgrech - a rhifyn cyntaf y cylchgrawn

Fe ddatblygodd Sgrech i fod yn rhan ganolog o'r sin roc Gymraeg rhwng 1978-85 - yn cynhyrchu cylchgrawn, creu a gwerthu nwyddau pop, trefnu gigs a chynnal noson wobrwyo.

Ond fe ddechreuodd y cyfan ar raddfa llawer llai fel cylchgrawn bychan lleol.

Ganol yr 1970au, roedd Glyn Tomos wedi dychwelyd i'w bentref genedigol Dinorwig, yn Nyffryn Peris, ar ôl bod yn y brifysgol.

Dyma gyfnod cyffrous yn hanes cerddoriaeth Gymraeg - cyfnod artistiaid fel Geraint Jarman, Tecwyn Ifan a Brân, a blynyddoedd cyntaf o arbrofi yn stiwdio newydd cwmni Sain.

Ar ôl sylweddoli bod nifer yn yr ardal yn rhannu ei frwdfrydedd at gerddoriaeth Cymraeg fe ddechreuodd Glyn drefnu nosweithiau Disgo'r Ddraig yn Neiniolen.

Roedd cynnydd yn y nifer o fandiau lleol Cymraeg hefyd ac felly dyma ddechrau rhoi llwyfan iddyn nhw.

"Roedd gymaint o frwdfrydedd a cymaint o ddiddordeb nes i feddwl mae 'na rywbeth yn fama ac yn hir neu'n hwyrach meddwl dyla ni gael cylchgrawn bop," meddai Glyn.

"Roedd (y cylchgrawn bop) Asbri wedi dod i ben, ac roedd o'n cael ei gysidro yn gylchgrawn neis neis. Roedda ni eisiau newid y ddelwedd o bop Cymraeg - cylchgrawn mwy bywiog, mwy ryff a rhywbeth gwahanol."

Clawr llyfr SgrechFfynhonnell y llun, Sgrech/Carreg Gwalch
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd llyfr o hanes y cylchgrawn ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch yn 2005

Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Sgrech - wyth tudalen ac yn costio 15 ceiniog - yn haf 1978. Roedd wedi ei gynhyrchu gan hanner dwsin o fechgyn yr ardal ac wedi ei anelu at ardal Arfon yn unig. Buan newidiodd hynny.

"Ar ôl cyhoeddi'r gynta' aeth o'n wenfflam - roedd pobl mor awyddus i'w ddarllen," meddai Glyn. "Nesh i sylweddoli bod hwn yn rhywbeth mwy na rhywbeth lleol ac allai o fod yn genedlaethol."

Heb gyfrifiadur, e-bost, y we, lluniau digidol na ffotocopïwr doedd hynny ddim yn hawdd. Ond ar ôl cysylltu gydag ysgolion a myfyrwyr roedd rhwydwaith dosbarthu gref mewn lle ar draws Cymru, heb sôn am ddosbarthu mewn gigs ledled y wlad.

Daeth Glyn hefyd i adnabod pobl oedd yn ymddiddori mewn cerddoriaeth ac a oedd hefyd efo dawn i dynnu llun neu ysgrifennu. Yn eu mysg roedd enwau a ddaeth yn adnabyddus yn ddiweddarach gan gynnwys y newyddiadurwyr Siôn Tecwyn a Dylan Iorwerth a'r bardd, y diweddar Iwan Llwyd.

"Wnaeth Sgrech dwi'n gobeithio rhoi'r cychwyn cynta' i lot ohonyn nhw," meddai Glyn. "Roedd 'na bobl oedd nid yn unig yn gallu sgwennu'n dda ond sgwennu'n dda am gerddoriaeth - mae dawn arbennig i hynny.

"Dwi ddim yn siŵr os yda ni'n gwneud digon o hynny ar hyn o bryd, achos mae bandiau ac unigolion sy'n perfformio angen hynny - ac mae o ddiddordeb i'r darllenwyr a'r bandiau."

Caryl Parry-Jones yn derbyn Tlws Prif Gantores Unigol gorau 1980 gan Alun 'Sbardun' HuwsFfynhonnell y llun, Sgrech
Disgrifiad o’r llun,

Caryl Parry-Jones yn derbyn Tlws Prif Gantores Unigol Gorau yng Ngwobrau Sgrech 1980 gan Alun 'Sbardun' Huws

Doedd y cylchgrawn ddim ofn tynnu blewyn o drwyn ac roedd rhai yn feirniadol, yn enwedig am golofn 'hel clecs' Sibrydion Wil a Fi.

Mae Glyn yn credu bod peth beirniadaeth wedi dod yn sgil ei rôl fel cadeirydd mudiad gwleidyddol Adfer yn ystod y cyfnod - a bod eraill ddim eisiau gweld newid yn y drefn.

Meddai: "Mae'n deg dweud bod pobl yn y cyfryngau yn teimlo bod nhw'n colli gafael ar y byd adloniant ac roedden nhw'n bryderus iawn. Tan hynny roedden nhw wedi cael rhwydd hynt i wneud be' oedden nhw eisiau a rhoi eu stamp nhw ar bethau."

Gyda 2,000 o gopïau yn cael eu gwerthu ar un cyfnod, datblygodd Sgrech i werthu bathodynnau, posteri, crysau T a threfnu noson wobrwyo flynyddol.

"Ar y pryd, a pan o'n i'n tyfu fyny, doedd adloniant Cymraeg ddim yn rhywbeth oedd yn cael ei weld yn broffesiynol i gymharu efo cerddoriaeth anglo-Americanaidd, a ddim yn rhywbeth oedd mor dda," meddai Glyn.

"Ond nesh i feddwl mae ganddon ni rŵan fyd adloniant wirioneddol dda yma, be' am ddyrchafu fo a'i wobrwyo fo."

Rhiannon Tomos yn canu o flaen torfFfynhonnell y llun, Sgrech
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sgrech yn trefnu gigs yn yr Eisteddfod, fel yr un yma gyda Rhiannon Tomos a'r Band

Ar ôl cynnal y seremoni wobrwyo gyntaf yn Theatr Seilo, Caernarfon, yn 1980 roedd yn rhaid cael lle llawer mwy. Symudwyd i Bafiliwn Corwen am y bum mlynedd nesaf.

"Roedd y noson yn dechrau am hanner awr wedi saith ond roedd pobl yno am chwech. Roedden nhw'n nosweithiau rhyfeddol," meddai Glyn.

Roedd Sgrech hefyd yn trefnu sesiynau yn yr Eisteddfod mewn cyfnod pan nad oedd adloniant i bobl ifanc yn rhan o'r brifwyl.

Ond ar ôl saith mlynedd, yn 1985, daeth y cyfan i ben.

"Pan mae rhywun yn siarad am gyfnod llencyndod 'da ni'n siarad am tua saith mlynedd ac wedyn mae 'na genhedlaeth arall yn dod drwodd, sy'n beth da," meddai Glyn.

"Hefyd roedd o'n waith gwirfoddol ac roedd o'n lot fawr o waith a ro'n i'n dibynnu ar bobl i wneud y gwaith ac yn teimlo ar ôl saith mlynedd do'n i methu gofyn i bobl i wneud mwy.

"Dwi'n falch iawn ohono hyd heddiw - does 'na ddim wythnos yn mynd heibio pan dydi rhywun ddim yn siarad am Sgrech efo fi neu 'da ni'n mynd i'r Eisteddfod ac mae rhywun yn dweud 'bechod bod 'na ddim sesiwn Sgrech'."

Glyn Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Glyn Tomos heddiw

Ers 1985 mae Glyn, aeth yn ei flaen i gael gyrfa fel gweithiwr cymdeithasol yng Ngwynedd cyn iddo ymddeol, wedi cyhoeddi cylchgronau eraill, llyfrau ac ar hyn o bryd mae'n olygydd Papur Dre.

Mae'n dweud mai ei ethos ar hyd y blynyddoedd ydi i geisio "gwneud i rywbeth ddigwydd", sydd yr un mor wir heddiw.

"Dwi yn teimlo bod adloniant wedi symud ymlaen, mae mwy o grwpiau a mwy o broffesiynoldeb ond dwi dal i feddwl bod 'na lot mwy i'w wneud - dwi'n teimlo all o fod yn fwy bywiog nag ydi o.

"Mae'r cyfryngau efo gormod o afael ar y sin o ran pwy sy'n cael ei hyrwyddo a pwy sydd ddim yn cael ei arwyddo. Dwi ddim yn teimlo rhywsut bod y sin yn gallu datblygu yn naturiol.

"Dwi'n dal i feddwl bod potensial aruthrol yna i gael pobl i mewn i'r byd Cymraeg drwy gerddoriaeth, a thrwy hynny i ddysgu'r Gymraeg a defnyddio'r Gymraeg.

"Ti'n gorfod gwneud i bethau ddigwydd - wnaiff o ddim digwydd ei hun."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb